top of page
  • Black Spotify Icon
  • Black Apple Music Icon
  • Black Amazon Icon
  • Bandcamp
  • Black Instagram Icon
  • Black Facebook Icon
  • Black YouTube Icon
  • Black Twitter Icon
BreichiauHir-8c.jpg

PENSEIRI - MAS NAWR

Mae ein cân newydd cyntaf ers 2021, Penseiri mas nawr ar Recordiau Libertino.

Gwrandewch yma neu gwyliwch y fideo. 

BREICHIAU HIR

 

Mae sŵn mawr ag alawon cain ar flaen y gad yng ngherddoriaeth y band chwe-aelod o Gaerdydd, Breichiau Hir.

 

Gan gymysgu dylanwadau o’r post-rock, emo, punk a shoegaze, mae Breichiau Hir yn creu cerddorfeydd llawn emosiwn, wedi’u cyflwyno mewn tonnau trwm.

 

Mae eu sioeau byw dwys yn mynnu sylw gydag egni gwefreiddiol a swnllyd, gyda’u geiriau mewnblyg yn cael eu canu’n amrwd, gyda’r nod i gysylltu a chreu awyrgylch agos.

 

Ar ôl cyfres o senglau, fe wnaethon nhw ryddhau eu halbwm cyntaf a enwebwyd am Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac Albwm Cymraeg y Flwyddyn, Hir Oes I’r Cof yn 2021 ar Recordiau Libertino. Casgliad o ganeuon trawiadol ac emosiynol. Mae’r band ar hyn o bryd yn gorffen eu halbwm dilynol i’w ryddhau yn 2024.

Newsletter

Diolch! Thanks!

breichiauhir-live.jpg
BH-JustYFerch.png
bottom of page